Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

 

Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol)

 

Papur 2: Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru

_____________________________________________________________________

 

1.         Ymateb i’r cwestiynau am y Cynllun Ieithoedd Swyddogol drafft

 

1.1       Cwestiwn 10

 

1.1.1    Ar y cyfan, mae Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru o’r farn y bydd y Cynllun Ieithoedd Swyddogol drafft yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i wireddu’r uchelgais o fod yn sefydliad gwirioneddol ddwyieithog a thrwy hynny ddangos arweiniad ymarferol a chadarn i bobol Cymru.

 

1.1.2    Croesawn yn fawr y datganiad ym mharagraff 98, tudalen 47, “mai dim ond staff cyfieithu a chyfieithu ar y pryd achrededig fydd yn gwneud y gwaith cyfieithu testun a chyfieithu ar y pryd, ac fe’u hanogir i fod yn aelodau o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru[*] neu sefydliad proffesiynol tebyg”. Mae’r Gwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi eisoes wedi dangos ei ymrwymiad i’r egwyddor hon yn 2011 wrth ddatgan mai dim ond aelodau Cyflawn a Chyfieithu ar y Pryd o’r Gymdeithas a allai gael eu hystyried ar gyfer y cytundeb cyfieithu ar alw.

 

* yn y fersiwn Saesneg mae ‘the Association of Welsh Translators and Interpreters’ yn ymddangos yn y frawddeg hon. Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru yw enw corfforedig y Gymdeithas. Fe werthfawrogwn petaech yn defnyddio’n henw swyddogol yn y paragraff hwn yn y Saesneg. Gallwch er mwyn eglurder yn unig a rhwng cromfachau ddefnyddio ‘the Association of Welsh Translators and Interpreters’.

 

1.1.3    Mae lle pwysig i ddefnyddio technoleg wrth gyfieithu, sef meddalwedd cyfieithu arbenigol sy’n cynnwys meddalwedd cof cyfieithu i’w defnyddio law yn llaw â meddalwedd cyfieithu peirianyddol. Ond ni ellir dibynnu ar y feddalwedd i sicrhau cywirdeb ieithyddol a ffeithiol. Yr unig ffordd o sicrhau ansawdd y cyfieithiadau yw ymddiried y gwaith i gyfieithwyr a golygyddion proffesiynol cymwys.

 

1.1.4    Cytunwn hefyd yr hyn a ddywedir yn ail hanner paragraff 98, sef na ddylid dibynnu’n ormodol ar y gwasanaeth cyfieithu ac y dylid annog staff Cymraeg eu hiaith sydd â’r sgiliau angenrheidiol i ddarparu gwasanaeth dwyieithog. Fe’ch anogwn i roi pwyslais, lle mae hynny’n berthnasol, ar wella sgiliau ysgrifennu Cymraeg staff y Cynulliad Cenedlaethol fel rhan o’r ymrwymiad i ddatblygu sgiliau Cymraeg a dwyieithog. Gobeithiwn hefyd y bydd y strategaeth sgiliau dwyieithog y bwriedir ei chyhoeddi cyn diwedd mis Mawrth 2012 yn rhoi lle teilwng i fesur sgiliau ysgrifenedig aelodau’r staff ac y clustnodir adnoddau digonol i gynnig yr hyfforddiant priodol.

 

Mae hi’r un mor bwysig annog Aelodau a staff y Cynulliad Cenedlaethol i wella’u Cymraeg llafar a bydd defnyddio cyfieithu ar y pryd mewn cyfarfodydd yn rhoi cyfleoedd nid yn unig i siarad Cymraeg ond hefyd i fagu’r hyder i wneud hynny. Bydd rhoi cyfarwyddiadau i gadeiryddion ynghylch cadeirio cyfarfodydd dwyieithog yn bwysig yn hyn o beth.

 

1.1.5    Croesawn y gosodiad, ym mharagraff 51, tudalen 37, y bydd disgwyl i sefydliadau allanol gyflwyno dogfennau yn Gymraeg a Saesneg. Bydd hyn yn arwain at gryfhau defnyddio’r Gymraeg mewn sefydliadau cyhoeddus ledled Cymru.

 

1.1.6    Ym mharagraff77, tudalen 41, a yw ‘dewis iaith’ yn golygu unrhyw iaith y bydd yr holwr yn anfon ei (h)ymholiad ynddi? O gymryd nad dyna’r bwriad, awgrymwn y dylid nodi bod y ‘dewis’ yn gyfyngedig i’r Gymraeg a’r Saesneg.

 

1.2       Cwestiwn 11

 

Croesawn y ffaith fod Comisiwn y Cynulliad wedi cytuno i ailsefydlu Cofnod y Trafodion cwbl ddwyieithog a chynnwys y ddarpariaeth yn y Cynllun Ieithoedd Swyddogol.

 

Credwn y dylai darparu Cofnod y Trafodion cwbl ddwyieithog fod wrth wraidd uchelgais y Cynulliad Cenedlaethol i fod yn sefydliad gwirioneddol ddwyieithog ac yn un sy’n galluogi ei Haelodau a’i staff i weithio yn y ddwy iaith.

 

Ym mis Awst 2009 fe ryddhaodd y Gymdeithas ddatganiad a oedd yn gresynu at benderfyniad Comisiwn y Cynulliad i roi'r gorau i gynhyrchu trawsgrifiadau cwbl ddwyieithog o gyfarfodydd llawn y Cynulliad Cenedlaethol. Roeddem yn bryderus ar y pryd y gallai hynny osod cynsail i sefydliadau yn y sector cyhoeddus gwtogi ar gyfieithu dogfennau pwysig. Mae hynny’n arbennig o wir heddiw ar adeg pan fo sefydliadau’n gorfod wynebu penderfyniadau anodd ynghylch cwtogi ar wasanaethau.

 

Fe ddylai Cofnod y Trafodion cwbl ddwyieithog fod yn ganolog i fwriad y Cynulliad Cenedlaethol i roi “deunyddiau dwyieithog i Aelodau’r Cynulliad” (paragraff 46, tudalen 36). Mae’n bwysig fod y cyfieithiad Cymraeg o bob datganiad a thrafodaeth yn y Cynulliad Cenedlaethol yn ffeithiol ac yn ieithyddol gywir ac yn gyson.

 

2.         Ymateb i’r cwestiynau am y Bil

 

2.1       Cwestiynau 1,2 a 3

 

2.1.1    Oherwydd na reolir y Cynllun Ieithoedd Swyddogol gan y fframwaith cyfreithiol a nodir ym Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, mae’n briodol cael Bil sy’n darparu ar gyfer defnyddio’r iaith Gymraeg a’r Saesneg yn nhrafodion y Cynulliad Cenedlaethol a chan Gomisiwn y Cynulliad wrth arfer ei swyddogaethau, er mwyn gosod y dyletswyddau cyfreithiol ar sail statudol gadarn.

 

2.1.2    Credwn fod y Bil yn cyflawni’r diben y cyfeirir ato ym mharagraffau 4.1 - 4.4, tudalen 6 o’r Memorandwm Esboniadol.

 

2.1.3    Croesawn y ffaith fod Adran 1(2) o’r Bil yn cadarnhau statws swyddogol y Gymraeg yn y Cynulliad Cenedlaethol ac y caiff y Gymraeg a’r Saesneg eu trin yn gyfartal. Ond, rhaid cydnabod nad yw’r ddarpariaeth ym mharagraffau 58-60, tudalen 38, o’r Memorandwm Esboniadol yn cyflawni’r nod o ‘drin y ddwy iaith ar y sail eu bod yn gyfartal’ oherwydd y rhoir y flaenoriaeth i gyfieithu’n gyflym i’r Saesneg (am resymau ymarferol digon dilys) a bod rhaid i’r Gymraeg aros.

 

2.2       Cwestiwn 4

 

Credwn fod perygl y gellid dehongli'r is-baragraff (6) newydd, sef nad yw’n ofynnol o reidrwydd i bob gair a siaredir neu a ysgrifennir yn un o’r ieithoedd swyddogol gael ei gyfieithu neu’i gyfieithu ar y pryd i’r iaith arall, i olygu na fydd yn rhaid i Gomisiwn y Cynulliad ddarparu Cofnod y Trafodion yn gwbl ddwyieithog. Mae angen dileu’r amwysedd hwnnw yn y Bil a chyfeirio’n benodol at Gofnod y Trafodion er mwyn rhoi’r sicrwydd y cyhoeddir cofnod cwbl ddwyieithog.

3.         I gloi

 

Croesawn yr adolygiad cynhwysfawr o effeithiolrwydd y system a fabwysiadwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol i gyfieithu Cofnod y Trafodion – adolygiad y bwriadwch ei gynnal yn haf 2012 ac un y byddem yn hapus i gyfrannu ato. Fe’ch anogwn hefyd i geisio barn Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor, uned sydd wedi datblygu nifer o gymhorthion cyfieithu ar hyd y blynyddoedd, gan gynnwys llwyfan newydd i integreiddio’r cymhorthion hynny mewn un system gynhwysfawr wedi’i theilwra ar gyfer cyfieithu rhwng y Gymraeg a’r Saesneg.

 

Os gall Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru fod o unrhyw gymorth i Gomisiwn y Cynulliad wrth i chi ystyried sut orau i ddarparu gwasanaeth cyfieithu a chyfieithu ar y pryd, fe fyddem yn falch o’ch cynorthwyo.